 |
 |
Mae
Llansteffan yn bentref bach tawel mewn llecyn hynod o brydferth ar
lan aber afon Tywi. Uwchben y pentref mae Castell Llansteffan, sy'n
dyddio o'r 12fed ganrif, ac o ble y ceir golygfeydd anhygoel dros
yr aber i Fro Gwyr ac ymhellach fyth. Mae'r traeth melyn yn ymestyn
o gyrion y pentref, o amgylch maes y castell ac i Fae Scotts, ac mae'n
ddelfrydol ar gyfer pob math o weithgareddau glan-y-mor, gan gynnwys
barbyciwiau haf yng ngolau'r machlud.
Nesaf >>> English >>>
|
|