 |
 |
Er
i'r ardal ddenu'r artist a'r llenor rhamantus dros y blynyddoedd -
o Turner i Dylan Thomas - mae Llansteffan yn bentref byw a bywiog,
gydag ysgol, siop, swyddfa bost a maes chwarae i'r plantos. Ceir te
a byrbrydau ger y traeth, gyda dwy dafarn gyfeillgar a bwyty gwerth
chweil nid nepell, ac mae sawl tafarn a bwytai o fewn taith car o
ychydig funudau. Mae Llansteffan yn cynnal timau pel-droed a chriced,
ac fe ddylech ymweld a'r carnifal blynyddol heb os nac onibai! Nesaf >>> Cychwynfa >>> English >>> |
|